Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

12 Chwefror 2014, 12:00-1:15pm.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

 

1. CROESO

Croesawodd Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth, bawb i gyfarfod cyntaf 2014, a oedd yn dilyn y thema awtistiaeth a bwlio. Roedd yr Aelodau Cynulliad canlynol hefyd yn bresennol yn y cyfarfod: Aled Roberts a William Powell a chynrychiolwyr o swyddfa Kirsty Williams a Simon Thomas.

 

2. MATERION YN CODI

 Nid oedd materion yn deillio o’r cyfarfod diwethaf a chytunwyd ar y cofnodion.

 

3. CYFLWYNIADAU

Karen Thompson a roddodd y cyflwyniad cyntaf gerbron y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth, a soniodd am ei phrofiadau o ymdrin ag awtistiaeth a bwlio. Yna cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Judy Hutchings ar raglen gwrth-fwlio sy’n cael ei threialu yng Nghymru.

Disgrifiodd Karen Thompson sut y cafodd ei bwlio drwy gydol ei hoes, a dywedodd na chafodd ddiagnosis o awtistiaeth tan yr oedd yn niwedd ei thridegau. Eglurodd mai’r bwlio yn ystod ei phlentyndod, yn arbennig yn yr ysgol, fu’r gwaethaf iddi ei brofi, ond ei fod yn rhan o’i bywyd fel oedolyn hefyd. Soniodd Karen nad oedd wedi gallu aros mewn swydd oherwydd y bwlio, a’i fod wedi arwain at deimladau o fethiant yn ei bywyd. Gorffennodd Karen ei chyflwyniad drwy ddweud bod angen i bobl sylweddoli bod pobl sydd ag awtistiaeth yn cael eu bwlio, a bod angen i ysgolion a gweithleoedd ddod o hyd i atebion i’w atal. 

Siaradodd yr Athro Judy Hutchings o Brifysgol Bangor am ei gwaith yn rhannu gwybodaeth ac yn gwneud gwaith ymchwil ar y rhaglen Gwrth-fwlio KIVa yng Nghymru. Mae KIVA yn dalfyriad o ymadrodd yn y Ffindir sy’n golygu ‘yn erbyn bwlio’. Hwn yw’r gair am ‘neis’ yn y Ffindir hefyd.

Mae’r rhaglen yn gyfleuster ymarferol ar gyfer mynd i’r afael â bwlio, a chaiff ei rhoi ar waith drwy ysgol gyfan. Mae’n cynnwys gwersi llawn, strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â bwlio, cefnogaeth i rieni a disgyblion, a deunydd ar-lein.

Profwyd bod y rhaglen yn hynod lwyddiannus yn y Ffindir. Bellach mae dros 90% o ysgolion y Ffindir yn defnyddio’r rhaglen, a chaiff ei chyllido gan Lywodraeth y wlad. Treialwyd y rhaglen gan Brifysgol Bangor yng nghyfnod allweddol 2 mewn 17 o ysgolion yn 2012-2013, ac roedd yn cynnwys 13 o ysgolion o Gymru a gafodd arian gan Lywodraeth Cymru.

Mae canlyniadau’r treial yn cael eu hysgrifennu yn barod i’w cyhoeddi ar hyn o bryd. Mae adroddiadau gan y disgyblion eu hunain yn dangos bod lleihad sylweddol o ran bwlio ac erledigaeth. Roedd adborth gan yr athrawon yn awgrymu bod y rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol ar les ac ymddygiad y plant ac ar yr awyrgylch yn yr ystafell ddosbarth ac ar y cae chwarae. Mae 11 o ysgolion yn parhau â’r rhaglen.

Ar ôl cael arian gan y Loteri Fawr, caiff y rhaglen ei darparu mewn 21 o ysgolion ychwanegol yng Nghymru, a gwneir gwaith ymchwil iddi drwy’r holl ddosbarthiadau cyfnod allweddol dau. Mae’r Athro Hutchings yn arfarnu’r canlyniadau mewn cydweithrediad ag Uned Ymchwil Cymdeithasol Dartington.

Mae copi PowerPoint o gyflwyniad yr Athro Hutchings ynghlwm, gyda’r cofnodion.

 

4. CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

Cynhaliodd y Grŵp Trawsbleidiol ei gyfarfod cyffredinol blynyddol, yn unol â rheolau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer grwpiau trawsbleidiol. Cadarnhawyd mai Mark Isherwood AC fyddai Cadeirydd y grŵp, a darperir gwasanaeth ysgrifenyddiaeth gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru [NAS Cymru].

 

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth 2014, ac fe’i cymeradwywyd.

 

5. UNRHYW FATER ARALL

Amlinellodd Lisa Rapado, aelod o Gangen Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, Ystradgynlais, wybodaeth am ymgynghoriad a gynhelir gan Gyngor Sir Powys ar gyfer adolygu ei ddarpariaeth ar gyfer pobl sydd ag anghenion addysgu ychwanegol. Byddai hyn yn cynnwys cau 16 o unedau a phedair canolfan asesu cyn-ysgol ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion cynradd. Amcangyfrifir y bydd y cam hwn yn arbed oddeutu £350,000 i’r Cyngor.

 

Anogodd Lisa aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol i ymateb i’r ymgynghoriad, ac i ymuno â’r dudalen Facebook a sefydlwyd ganddi [sef, Gadewch Lonydd i Uned Arbenigol Powys]

 

 

6. CAMAU GWEITHREDU

 

 

7. CYFARFOD NESAF

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 14 Mai 2014, 12:00-1:15pm